Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth llanc, 17, yn y Barri.

Mae cyfanswm o wyth bellach wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i gorff Harry Baker, 17, o Gaerdydd, gael ei ddarganfod yn ardal y dociau ar Awst 28.

Mae disgwyl i’r ddau o Gaerdydd, sef Leon Symons, 21, a bachgen, 16, na ellir ei enwi, ymddangos gerbron Llys Ynadon heddiw (dydd Iau, Medi 5).

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae swyddogion arbenigol yn dal i gefnogi teulu Harry Baker.

Mae’r gweddill sy’n cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn cynnwys pump o’r Barri, sef Peter McCarthy, 36, Ryan Palmer, 33, Raymond Thompson, 47, Leon Clifford, 22 a Lewis John Evans, 61; yn ogystal ag un o Gaerdydd, sef Nathan Delafontaine, 32.

Mae dau berson arall – dyn, 21, a dynes, 38 – a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth, bellach wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.