Mae Carrie Lam wedi cadarnhau y bydd llywodraeth Hong Kong yn tynnu’n ôl y mesur sydd wedi sbarduno misoedd o brotestio yn y ddinas.

Mae’r cam yn ymateb i un o alwadau’r protestwyr – a gobaith Carrie Lam yw y bydd yn dod â’r gwrthdystio treisgar i ben.

Ond mae pobol sydd o blaid y llywodraeth yn honni na fydd hyn yn ddigon i rwystro’r protestio, sydd hefyd yn galw am fwy o ddemocratiaeth ac am ymddiswyddiad yr Arweinydd.

Ond mae Carrie Lam yn dweud yn bendant nad yw’r llywodraeth yn fodlon plygu i’r un alwad arall gan y protestwyr.