Mae Rheolwr Cyhoeddi gwasg annibynol mwyaf Cymru wedi ymddiswyddo a chymryd swydd gyda Chymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig.
Mae tair blynedd ers i Meirion Davies ddechrau yn ei swydd gyda Gomer, gan weithio o’u swyddfa yng Nghaerfyrddin. Ddwy flynedd yn ol, fe fu’n rhaid iddo amddiffyn camau gan y cwmni i dorri swyddi, ac fe arweinydd hynny at ddrwgdeimlad ac anghydfod tros staffio.
Bryd hynny, fe ddywedodd y cyn-actor a chyn-Bennaeth Cynnwys S4C fod y cwmni yn “hollol dawel eu meddwl” fod y broses ail-strwythuro “wedi bod yn deg a chyson”.
Mae Meirion Davies yn dal i fod fwyaf adnabyddus am bortreadu un o’r dysgwyr yn ‘Y Ddau Frank’ ochr yn ochr â’r actor Rhys Ifans.
Wythnos yn ol
Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Gomer, Jonathan Lewis, yn cadarnhau wrth golwg360 mai “dim ond wythnos yn ôl” y gadawodd Meirion Davies ei swydd..
“So ni wedi gwneud unrhyw benderfyniadau na meddwl am hysbysebu – rydyn ni yn gweithio mor brysur ar hyn o bryd,” meddai, gan gadarnhau ymhellach fod Meirion Davies wedi cael swydd gyda Chymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig.
“Doedd e ddim yn syndod. Dyna ei fyd e. Mae tristwch ei fod e wedi mynd, ond dyna beth yw trosiant staff. Fe fydden ni yn gweld ei eisie fe – mae e wedi bod yn grêt i ni.”
Mae’r cwmni a gafodd ei sefydlu yn Llandysul, ac sydd â chanolfan newydd ar gyrion y pentref, yn cyflogi dros 50 o bobol, ond mae’r adran gyhoeddi wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin.
Troi at y cobiau
Mae llefarydd ar ran Cymeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig wedi cadarnhau y bydd Meirion Davies yn dechrau yn ei swydd newydd gyda nhw ddechrau’r mis Hydref.
Mae Meirion Davies ei hun yn bridio’r ceffylau ers blynyddoedd, ac yn feirniad uchel ei barch yn y maes.