Mae disgwyl i lywodraeth Hong Kong gyfarfod heddiw, ac mae disgwyl i’r arweinydd gyhoeddi’n swyddogol ei bod yn gohirio’r mesur estraddodi sydd wedi ennyn cymaint o brotestiadau yno ers tri mis.
Mae’r ddeddfwriaeth, a fyddai’n caniatau i drigolion Hong Kong gael eu estraddodi i Tsieina i wynebu achosion llys, wedi achosi gwrthdystiadau yn y ddinas ers mis Mehefin.
Ond tra bod disgwyl i Carrie Lam atal y ddeddfwriaeth, mae protestwyr eisiau iddi ei thynnu’n ol yn llwyr.
Mae papur newydd The South China Morning Post yn dyfynnu ffynhonnell oddi fewn i’r llywodraeth yn dweud fod y ddeddfwriaeth yn cael ei thynnu’n ol cyn y bydd y llywodraeth yn ail-gyfarfod ym mis Hydref.