Mae ymchwiliad ar y gweill, wedi i wyau gael eu taflu at fabi yn yr hyn sy’n cael ei alw yn ymosodiad ‘hiliol’ yn Worcester (Caerloyw).

Fe gafodd heddweision eu galw wedi i ddynes a’i babi naw mis oed gael eu targedu tua 11.30yb ddoe (dydd Mawrth, Medi 3).

Mae’r dyn sy’n cael ei amau o daflu’r wyau wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn. Does neb eto wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, a chafodd neb ei anafu chwaith.

Mae Heddlu West Mercia wedi disgrifio’r digwyddiad fel un “hyll a digymell”, ac maen nhw’n trin yr achos fel un hiliol.