Mae’r Aelod Seneddol diweddara’ i gael ei hethol yng Nghymru, yn dweud ei fod yn “falch” o fod ymhlith y rheiny a achosodd i Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig golli rheolaeth o’r drefn yn San Steffan.

Fe gafodd Jane Dodds ei hethol yn aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros Sir Frycheiniog a Maesyfed ar Awst 1 eleni.

“Dw i’n falch o fod yn un o’r Aelodau Seneddol a bleidleisiodd o blaid y cynnig hwn,” meddai Jane Dodds ar ei chyfrif Twitter. “Fe fyddai Brexit heb gytundeb yn rhy ddinistriol, ac mae’n rhaid ei gymryd oddiar y bwrdd.

“Mae Aelodau Seneddol yn cymryd rheolaeth ac yn ail-ddatgan fod y Senedd yn sofran. Rhyfedd i weld y rhai sydd flaenaf o blaid Brexit yn wrthwynebus i hynny.”

Mae David Hanson, Aelod Seneddol Llafur Delyn, hefyd wedi bod ar wefan gymdeithasol Twitter yn dweud ei farn.

“Y Llywodraeth wedi colli o 27 pleidlais – y Prif Weinidog yn gwneud pwynt o drefn, ond nawr wedi cael colled wael yn ei bleidlais cyntaf.”

Un arall o Gymru, ond sy’n cynrychioli etholaeth Eddisbury yn Lloegr ar ran y Torïaid, ydi’r aelod, Antoinette Sandbach. Fe fu’n Aelod Cynulliad rhanbarthol tros Ogledd Cymru rhwng 2011 a 2015.

Ar ol pleidleisio yn erbyn Boris Johnson neithiwr yn San Steffan, fe drydarodd ei rhesymau pam: “Cefais fy ethol i weithredu yn beth rwy’n ei gredu yw’r hyn sydd o’r budd gorau i’m etholwyr,” meddai.

“Mae’r chwip wedi ei chymeryd oddi arnaf. Fodd bynnag, mae yna adegau tyngedfennol pan mae’n rhaid ichi wneud yr hyn sy’n iawn, dydio ddim bwys beth yw’r canlyniadau personol. Mae’n anodd, wnai ddim esgus nad ydio.”