Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio wedi i ferch 11 oed gael ei thresio yn ystod oriau mân dydd Sadwrn diwethaf (Awst 31) yn Ynys Portland, Dorset.

Y gred ydi i’r ymosodiad ddigwydd yn nghyffiniau chwareli i’r de o Easten, wedi i’r ferch gyfarfod dyn ar gefn beic tua 3yb.

Roedd hi wedi bod gyda ffrind 14 mlwydd oed, pan gerddodd y tri ohonyn nhw heibio i archfarchnad fawr ac i lawr trac i gyfeiriad hen feliln wynt, meddai Heddlu Dorset.

Mae dyn lleol wedii cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.