Mae chweched dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Harry Baker yn y Barri.

Mae disgwyl i Lewis John Evans, 61, o’r Barri, ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Medi 4).

Dyma’r chweched dyn i gael ei gyhuddo gyda llofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth Harry Baker, 17, o Gaerdydd.

Mae bachgen 16 oed a dyn 21 oed o Gaerdydd a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Fe gafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw tua 5.50yb ddydd Mercher, Awst 28, i Ffordd Wimborne, y Barri, wedi i gorff Harry Baker gael ei ganfod yno.