Mae ymdrech ar droed i gludo mil a hanner o ffoaduriaid o ynys Lesbos i ganolbarth gwlad Groeg.
Mae’n rhan o ymgyrch fwy gan y llywodraeth i ysgafnhau’r baich oddi ar wersylloedd ffoaduriaid ar yr ynys ddwyreiniol sydd eisoes yn orlawn.
Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y bobol sy’n cyrraedd Lesbos o arfordir Twrci yn ddiweddar.
Fe gyrhaeddodd cwch yn cario 635 o bobol ddinas Thessaloniki neithiwr (nos Lun, Medi 2). O’r ddinas honno y mae’r 1,500 o ffoaduriaid wedi cael eu cludo i wersyll yn Nea Kavalu sydd eisoes yn gartref i 1,000 o ffoaduriaid o Syria.
Mae disgwyl i ail gwch yn cario 800 o bobol gyrraedd Lesbos heddiw (dydd Mawrth, Medi 3).