Fe fyddai etholiad cyffredinol yn ystod mis Hydref yn “gyfle ffantastig” i Albanwyr fynnu ail bleidlais ar annibyniaeth, meddai arweinydd plaid yr SNP yn San Steffan.
Mae Ian Blackford wedi dweud y byddai ei blaid yn ymgyrchu ar hawl yr Albanwyr i “benderfynu eu dyfodol eu hunain” os y bydd Boris Johnson yn galw etholiad brys y mis nesaf.
Mae Nicola Sturgeon, prif weinidg yr Alban ac arweinydd yr SNP, eisoes wedi datgan “Bring it on” yn wyneb y posibilrwydd o gael etholiad brys.
“Os oes etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae’n gyfle ffantastig i bobol yr Alban anfon neges clir iawn i San Steffan y dylen ni gael yr hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain,” meddai Ian Blackford mewn cyfweliadau heddiw (dydd Mawrth, Medi 3).
“Mae Boris Johnson wedi’i ethol gan aelodau’r blaid Geidwadol, nid gan y bobol. Does ganddo ddim mandad gan y bobol.”