Mae arlywydd Brasil eisiau i danau coedwigoedd yr Amazon fod yn destun trafodaeth ar lawr cyfarfod nesa’r Cenhedloedd Unedig y mis nesaf.
Mae’r gefnogaeth i Jair Bolsonaro yn ei wlad ei hun wedi gostwng yn sylweddol ers i’r tanau dderbyn sylw rhyngwladol.
Mewn cyhoeddiad i’r wasg, mae’r arlywydd asgell dde eithafol yn honni fod llywodraethau blaenorol wedi anwybyddu’r Amazon ac ei fod am drafod y mater “mewn ffordd genedlaetholgar” gydag arweinwyr gwledydd eraill y byd.
“Dw i’n gwrthod derbyn unrhyw elusen gan unrhyw wlad yn y byd o dan yr esgus o warchod yr Amazon pan mae’r ardal yn cael ei rhannu a’u gwerthu,” meddai.
Yn ôl y Sefydliad Gwladol dros Ymchwilio’r Gofod, fe gynheuwyd 30,901 tân yn ystod mis Awst. Dyma’r nifer uchaf ers Awst 2010.