Mae prif swyddog Undeb yr Undebau Llafur (TUC) yng Nghymru yn galw ar i Aelodau Seneddol feddwl am les y wlad yr ochr yma i Glawdd Offa wrth iddyn nhw fwrw eu pleidleisiau yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Medi 3).
Yn ôl Martin Mansfield, mae angen i gynrychiolwyr etholaethau Cymru yn San Steffan “sefyll i fyny” dros y rhai sydd wedi’u rhoi nhw yn lle maen nhw, a gwneud popeth o fewn eu gallu i osgoi Brexit heb gytundeb ar Hydref 31. “Rydyn ni’n galw ar Aelodau Seneddol Cymru i feddwl am y drwg y byddai Brexit heb gytundeb yn ei wneud i Gymru,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol. “Fe fyddai canlyniad gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeg yn drychinebus. Fe fyddai’n golygu colli swyddi, cyflogau’n gostwng, a phrisiau@n codi. Fe fyddai anhrefn yn ein porthladdoedd a phrinder bwyd a meddyginiaeth… Ac fe fyddai’n rhoi hawliau gweithwyr mewn peryg hefyd. “Mae TUC Cymru yn cefnogi’r penderfyniad i adalw’r Cynulliad yn ôl i Gaerdydd ac i ymuno yn yr ymdrechion cyfreithiol i rwystro prorogio’r Senedd,” meddai Martin Mandfield eto. “Rydyn ni hefyd yn cefnogi pob ymdrech ddemocrataidd i rwytro Brexit heb gytundeb.” |