Mae ymosodwr wedi lladd wyth o ddisgyblion a lladd dau arall mewn ysgol gynradd yng nghanolbarth Tsieina, ar ddiwrnod cyntaf y tymor newydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 8yb ddydd Llun (Medi 2) ym mhentref Chaoyangpo yn nhalaith Hubei,
Mae’r dyn 40 oed sy’n cael ei amau o’r drosedd yn cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliad ar y gweill.
Dyw hi ddim yn glir eto sut yr ymosododd ar y plant, na does yna ddim trafod beth allai fod yn rheswm y tu ôl i’r drosedd. Ond mae rhai adroddiadau yn awgrymu ei fod newydd gael ei rhyddhau o garchar Hubei, lle y bu dan glo am geisio llofruddiaeth.