Fe fydd Hardeep Singh Kohli, y digrifwr a chyflwynydd teledu o’r Alban, yn cyflwyno tri digrifwr o Gymru mewn gig comedi ar ôl yr orymdaith ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn (Medi 7).

Yn perfformio yn y gig Saesneg yn Theatr Soar am 5 o’r gloch mae’r Cymry Cymraeg Dan Thomas, Steffan Alun ac Eleri Morgan, gyda Hardeep Singh Kohli yn MC.

Fe ddaw ei ymddangosiad diweddaraf yng Nghymru wythnosau’n unig ar ôl iddo annerch y dorf o 8,000 mewn rali ar y Maes ar ddiwedd gorymdaith ar hyd strydoedd Caernarfon.

Mae’n ymgyrchydd brwd tros annibyniaeth i’r Alban, ac yn dweud ei fod yn ffrind i’r ymgyrch yng Nghymru.

“Dw i’n dod o Glasgow ond pan dw i yng Nghymru, dw i’n teimlo fel Cymro,” meddai wrth y dorf.

“Mae pobol wedi dod ata’i yn diolch i fi am ddod i’r wlad hon, ond mae hynny’n anghywir. Diolch i chi am ofyn i fi ddod i’r genedl wych hon.

“Y prif reswm dw i yma yw ’mod i’n methu cysgu wrth feddwl am yr anghyfiawnderau yn erbyn y Cymry. Does gan yr un wlad arall yn y byd fwy o gestyll na Chymru. Pam? Roedd angen eu hadeiladu i’ch cadw chi i lawr.

“Does yna’r un wlad arall wedi dioddef cymaint o ymosodiadau ar ei hiaith fel mae llywodraethau Llundain wedi ymosod ar y Gymraeg ond eto, mae hi’n dal i gael ei siarad.”

Yr hinsawdd yn berffaith ar gyfer gomedi

“Mae Cymru, fel Alban Hardeep Singh Kohli, yn dechrau dihuno a sylweddoli y gallwn ni ddilyn ein trywydd ein hunain,” meddai trefnwyr Stand-yp Cymru.

“Ers sefydlu Stand Up For Wales, fe welsom yr ail bont hafren yn newid yn Bont Tywysog Cymru, mae Brexit yn rhwygo’r ‘Deyrnas Unedig’ fondigrybwyll yn ddarnau, a daeth Boris Johnson yn brif weinidog ar wledydd Prydain.

“Mae’r cyfan oll yn cynnig llawer mwy o ddeunydd comedi nag y gellir ei ffitio i mewn i un gig ar brynhawn dydd Sadwrn ym Merthyr.”