Fe fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, meddai Boris Johnson wrth annog aelodau seneddol i beidio â chefnogi’r ymdrechion i ohirio Brexit heb gytundeb.

Daeth ei sylwadau wrth iddo gyflwyno datganiad y tu allan i rif 10 Downing Street heno (nos Lun, Medi 2).

Roedd cryn ddyfalu y gallai benderfynu alw etholiad cyffredinol pe na bai’n cael ei ffordd ar ddiwedd trafodaethau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ond roedd y neges yn ei ddatganiad yn glir, sef nad “ydw i eisiau etholiad, dydych chi ddim eisiau etholiad”, ac na fyddai’n ceisio ymestyn y terfyn amser ar gyfer Brexit y tu hwnt i Hydref 31.

Mae’r gwrthbleidiau’n galw am ymestyn y dyddiad oni bai bod cytundeb yn ei le erbyn hynny.

Oedi yn ddi-bwrpas

Yn ôl Boris Johnson, bydd oedi pellach, sy’n cael ei annog gan Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn “ddi-bwrpas”.

Mae’n rhybuddio aelodau seneddol y bydden nhw’n “torri coesau” Llywodraeth Prydain i ffwrdd pe baen nhw’n cefnogi mesur trawsbleidiol, ac yn gwanhau eu grym wrth drafod â’r Undeb Ewropeaidd.

“Dw i’n dweud, er mwyn dangos i’n ffrindiau ym Mrwsel ein bod ni’n unedig yn ein pwrpas, y dylai aelodau seneddol bleidleisio gyda’r llwyodraeth yn erbyn oedi di-bwrpas Corbyn,” meddai yn ei ddatganiad.

“Dw i am i bawb wybod nad oes yna unrhyw amgylchiadau lle y byddwn i’n gofyn i Frwsel ohirio.

“Rydym yn gadael ar Hydref 31, heb os nac oni bai,” meddai wedyn wrth ddweud bod y tebygolrwydd o sicrhau cytundeb yn cynyddu, a bod y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn “yn galonogol”.