Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Harry Baker, 17 oed o’r Barri, wedi arestio un arall ar amheuaeth o’i lofruddio.
Fe fu’r heddlu’n apelio am wybodaeth am Leon Symonds o Drelai, ac maen nhw bellach yn dweud bod dyn wedi cael ei arestio a’i fod e yn y ddalfa.
Mae’n golygu bod naw o bobol bellach wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r achos.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.