Mae’r heddlu wedi enwi’r dyn 58 oed a fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghastell-nedd ddoe (dydd Sul, Medi 1).
Mae dau lanc 14 oed a phedwar llanc 16 oed wedi cael eu harestio mewn perthynas â marwolaeth Mark Winchcombe, yn dilyn ymosodiad arno yn ardal Abaty Nedd ger Sgiwen.
Fe ddigwyddodd am oddeutu 12.55yb, ac mae’r chwe llanc yn y ddalfa wrth i’r heddlu barhau i apelio am wybodaeth.
Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Sgiwen rhwng 12 canol nos ac 1.30yb.