Mae corwynt sydd bellach yn storm categori 5, wedi taro gogledd y Bahamas efo’r gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 185 milltir yr awr.

Mae’r storm wedi rhwygo toeau oddi ar dai, wedi troi cecir ar eu pennau, yn ogystal â llorio ceblau pŵer ac achosi dinistr.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi dod o’r ynysoedd, ond mae swyddogion yn amcangyfrif y bydd nifer helaeth o’r trigolion wedi eu gadael yn ddigartref.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi agor 14 lloches ledled y Bahamas, ac mae adroddiadau fod nifer o bobol wedi anwybyddu’r gorchymyn i wagio eu tai.