Mae sŵ yn Berlin yn dathlu genedigaeth dau o bandaod prin.

Dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o banda roi genedigaeth yn yr Almaen, ac mae hi wedi geni efeilliaid.

Dywed llefarydd ar ran y sŵ fod y fam, Meng Meng, wedi gosod y babi cyntaf ar ei bola a’i gynhesu gyda’i phawennau, ei hanadl a’i blew yn oriau man y bore.

Awr yn ddiweddarach, wnaeth hi eni’r ail banda.

Panda o’r enw Jiao Qing yw’r tad.

Fe gyrhaeddon nhw’r sŵ o Tsieina ym mis Mehefin 2017.