Mae ci bach 15 wythnos oed o’r Rhondda yn ymgyfarwyddo â’i gartref newydd – gyda Boris Johnson a’i bartner Carrie Symonds yn Downing Street.

Roedd y ci Jack Russell, sydd wedi’i groesi â brid arall, wedi bod yn lloches elusen Friends of Animals Cymru ar ôl cael ei achub o fferm fridio cŵn.

Does gan y ci ddim enw eto, ond fe fydd e’n byw yn y fflat uwchben rhif 11 Downing Street gyda phrif weinidog Prydain a’i bartner.

Ar ôl mynd â’r ci o’r lloches, maen nhw’n tynnu sylw at Ddeddf Lucy, sy’n ceisio torri i lawr ar weithgarwch ffermydd bridio cŵn, gan annog pobol i fynd at fridwyr profiadol sydd ag enw da.