Mae swyddog diogelwch brenhinol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio a stelcian.

Cafodd y swyddog, sy’n Uwch-Arolygydd gyda Heddlu Llundain, ei arestio ar Awst 22, a’i roi ar ddyletswyddau cyfyngedig ers hynny wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Ond mae’r heddlu’n pwysleisio nad yw’r troseddau honedig yn ymwneud â’i waith gyda’r teulu brenhinol.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn iddyn nhw gynnal ymchwiliad.