Mae byddin Israel yn honni i wrthryfelwyr yn Libanus saethu taflegrau at danciau a tharo sawl targed.

Dyw hi ddim yn glir eto os y cafodd neb ei anafu na’i ladd.

Mae Israel hithau wedi ymateb trwy saethu magnelaeth tuag at dargedau yn rhan ddeheuol Libanus, a’r pryder yw y gallai arwain at fwy o ymladd rhwng Israel a’r grŵp, Hezbollah.

Mae prif weinidog Libanus wedi siarad ar y ffón heddiw gydag Ysgrifennydd Gwladol America, Mike Pompeo, yn ogystal â chynghorwr i arlywydd Ffrainc, Emanuel Macron.

Mae Paris a Washington a’r gymuned ryngwladol wedi annog y ddwy wlad i ddod â’r trais yn yr ardal i ben.

Mewn araith ddoe (dydd Sul, Medi 1) cyhuddodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu Iran o sbarduno’r trais.