Mae chwech o lanciau wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn 58 oed farw yn dilyn ymosodiad yn Abaty Nedd ger Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 12.55 fore ddoe (dydd Sul, Medi 1), ac fe fu farw’r dyn o ganlyniad i’w anafiadau.
Mae’r chwech sydd wedi’u harestio rhwng 14 a 17 oed, ac maen nhw yn y ddalfa wrth i’r heddlu apelio am dystion.
Mae Heddlu De Cymru yn dal i chwilio am dystion i’r digwyddiad.