Mae myfyrwyr Hong Kong wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu streicio ar y diwrnod cyntaf o wersi er mwyn sefyll ysgwydd ac ysgwydd gyda mudiad gwrth-lywodraethol y ddinas.
Mae myfyrwyr Coleg St Francis Conassion, wedi bod yn protestio gyda’r miloedd o bobol eraill, gan ddal postei gyda’r neges: “Y pum prif orchymyn: does yna’r un yn bosib ei hepgor”.
Mae gweinidog addysg Hong Kong yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn mynd i’w dosbarthiadau mewn ysgolion a cholegau oherwydd na ddylai sefydliadau addysg “gael eu defnyddio fel llefydd i wneud pwyntiau gwleidyddol”.
Protestwyr yn targedu trafnidiaeth
Heddiw (dydd Llun, Medi 2) mae protestwyr wedi bod yn atal trafnidiaeth Hong Kong, trwy atal drysau trenau, a cheisio osgoi heddlu arfog drwy symud y gyflym rhwng gorsafoedd trafnidiaeth gyhoeddus.
Tarodd yr heddlu arfog brotestwyr efo batonau ac arestio un person yn stesion Lok Fu. Arestiwyd tri arall yn stesion Lai King.