Mae prif weinidog newydd Prydain yn herio Aelodau Senddol Torïaidd i wrthryfela, fel ei fod yn cael ei ‘orfodi’ i gynnal etholiad cyffredinol.
Dyna sut y mae’r cyn-weinidog cyfiawnder, David Gauke, yn darllen y sefyllfa, wrth iddo geisio crynhoi’r gwrthryfelwyr i fynd yn erbyn Boris Johnson.
Ar raglen Today ar Radio 4 heddiw (dydd Llun, Medi 2) fe ddywedodd bod tacteg Boris Johnson yn un beryg.
“Dw i ddim yn meddwl fod yna ymdrech fawr i berswadio pobol i gefnogi’r llywodraeth yr wythnos yma,” meddai.
“Dw i’n credu bod Boris Johnson yn ddigon bodlon i weld gwrthryfel, fel ei fod yn cael ei weld yn cosbi gwrthryfelwyr ac yn cael gwared â nhw o’r blaid,” meddai David Gauke.
“Dydi dim o’r hyn fasa fel arfer yn digwydd mewn amgylchiadau o’r fath, yn digwydd. Mae Boris Johnson a’i ddilynwyr agosaf i weld yn herio ac yn annog pobol i bleidleisio yn erbyn y llywodraeth.
“Oherwydd, yn y diwedd, dw i’n meddwl mai strategaeth Boris Johnson yr wythnos hon yw colli’r frwydr ac wedyn mynd am etholiad cyffredinol,” meddai wedyn.
“Trwy wneud hynny, mae’n gobeithio cael gwared ar y rhai cymhedrol ohonan ni sydd ddim yn gwrthwynebu Brexit ond yn gwrthwynebu gadael heb gytundeb.”