Mae llywodoraeth Iran yn rhybuddio y bydd hi’n symud yn bellach i ffwrdd o’r cytundeb niwclear a arwyddodd gyda llywodraethau eraill y byd yn 2015, os nad yw Ewrop yn ei helpu i werthu olew i weddill y byd.

Mae Iran wedi gosod dydd Gwener nesaf (Medi 6) fel y dedlein i dderbyn cymorth gan wledydd Ewrop i ddod yn rhan o’r farchnad ryngwladol, a thorri allan o sancsiynau sydd wedi’u gosod arni gan yr Unol Daleithiau.

Eisoes, mae Iran wedi mynd y tu hwnt i faint o danwydd niwclear y mae ganddi’r hawl i’w gynhyrchu yn ol cytundeb 215. Mae’r awdurdodau yn Tehran yn dweud fod y camau hyn yn rhai y medr eu gwrthdroi – os ydyn nhw’n cael cymorth.

Mae gweinidog tramor Iran, Mohammad Javad Zarif, ar ei ffordd i Mosgow, a’i ddirprwy ar ei ffordd i ddinas Paris gyda thim o economegwyr er mwyn cynnal trafodaethau munud olaf.