Mae plaid Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi cyhoeddi na fydd yn cydweithio gyda phlaid asgell dde a lwyddodd i ennill chwarter y bleidlais mewn dau ranbarth o’r wlad ddoe (dydd Sul, Medi 1).
Mae Annegret Kramp-Karrenbauer, arweinydd Undeb Cristnogol Democrataidd. yn dweud fod gweld y canlyniad yn nhalaith ddwyreiniol Sacsoni yn “ganlyniad anodd”.
Fe enillodd y CDU (plaid Angela Merkel) 32.1% o’r bleidlais, tra bod yr AfD (Alternatif i’r Almaen) wedi cipio 27.5%.
Mae’r Undeb yn fwya’ tebygol o glymbleidio gyda’r Gwyrddion – opsiwn y mae’r polau piniwn yn awgrymu sydd fwya’ tebygol ar lefel genedlaethol os daw etholiad cyffredinol.