Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod ar aelod o staff caban awyren, ar ehediad i mewn i faes awyr Southend.

Mae Heddlu Essex yn cadarnhau iddyn nhw gael galwad toc wedi hanner nos neithiwr (nos Sul, Medi 1) ac adroddiadau fod aelod o staff wedi diodde’ ymosodiad gan deithiwr.

Fe gafodd gwraig 49 oed ei dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o achosi niwed corfforol.

Mae adroddiadau y dweud fod yr awyren easyJet ar ei ffordd o Malaga yn Sbaen.

Mae’r ddynes wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tan Fedi  27.