Mae o leiaf 60 o bobol wedi cael eu lladd, a 50 eu hanafu, yn dilyn cyrchoedd awyr yn Yemen.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yn Dhamar yn ne-orllewin y wlad.

Dyma’r ymosodiad mwyaf dinistriol eleni, gyda phwysau cynyddol ar y llywodraeth wrth i nifer sylweddol o bobol gyffredin gael eu lladd mewn cyrchoedd sy’n targedu adeiladau.

Y targed y tro hwn oedd coleg yn ninas Dhamar sy’n cael ei ddefnyddio fel lloches ar gyfer gwrthryfelwyr.

Mae lle i gredu bod o leiaf dri adeilad wedi cael eu taro yn ystod saith cyrch dros nos.

Mae trafodaethau eisoes ar y gweill i geisio adfer y sefyllfa yn y wlad, wrth i dair miliwn o bobol wynebu newyn a’r argyfwng dyngarol gwaethaf yn y byd.

Mae’r Groes Goch yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.