Mae aelod seneddol Bury am weld tîm pêl-droed y dref yn cael dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed y tymor nesaf.

Cafodd y clwb eu diarddel yr wythnos ddiwethaf ar ôl i ddarpar-brynwr dynnu’n ôl o gytundeb i’w achub rhag mynd i’r wal.

Ond mae James Frith am weld y tîm yn cael dychwelyd i’r ail adran y tymor nesaf o dan arweiniad perchnogion newydd.

Mae’r clwb yn mynnu eu bod nhw wedi cyflwyno cynlluniau perchennog newydd cyn y dyddiad cau ddydd Mawrth (Awst 27), ac maen nhw’n ystyried dwyn achos yn erbyn y Gynghrair Bêl-droed gan eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg.

Mae Steve Dale, y perchennog presennol, yn galw am ymchwiliad i’r sefyllfa, ac am bleidlais ymhlith clybiau’r gynghrair ynghylch eu dyfodol.

Mae James Frith, ynghyd ag Andy Burnham, Maer Manceinion, yn galw am gyfarfod â Debbie Jevans, pennaeth y gynghrair, i drafod y sefyllfa “anghyfiawn”.

“Mae hyn wedi cael effaith anferth ar ein tref a chenedlaethau o deuluoedd pêl-droed, ond rhaid i ni symud yn ein blaenau,” meddai.