Mae Libya yn dweud ei fod wedi darganfod “o leiaf pum corff” o gwch oedd yn cario ffoaduriaid i Ewrop wnaeth siglo ar ei ochr yn y Môr Canoldir.

Dywed gwasanaeth achub arfordir Libya fod o leiaf 65 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub heddiw (dydd Mawrth, Awst 27), a’u bod yn parhau i chwilio am y rhai sydd ar goll.

Yn ôl asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, roedd plant ymhlith y rhai oedd wedi boddi.

Daeth Libya yn brif gyfrwng i ffoaduriaid o Affrica sy’n ffoi i Ewrop ar ôl y gwrthryfel wnaeth arwain at lofruddio Muammar Gaddafi yn 2011.