Mae cyn-weithiwr i gwmni ymchwil wedi “trawsnewid ei fywyd yn llwyr” trwy fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn dilyn ymweliad â’r Antartig.

Fe wnaeth Ben Tullis, sy’n wreiddiol o Hastings, gyfarfod â’i wraig, Nerys, ar fwrdd llong tra oedd yn teithio i’r Antartig, lle roedd hi’n gweithio fel meddyg.

Yn sgil y cyfarfyddiad cyntaf, fe benderfynodd y Sais, a oedd yn byw yng Nghaergrawnt ar y pryd, “newid cwrs fy mywyd yn llwyr” gan ymgartrefu gyda’i gariad yng Nghymru.

“Mi wnes i ddilyn fy nghalon, symud i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg,” meddai’r gŵr sy’n gyn-arbenigwr Technoleg Gwybodaeth i Arolwg Antartig Prydain.

“Yn ffodus, mi gytunodd Nerys i fy mhriodi y flwyddyn ganlynol.”

Byw trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Ben Tullis ar hyn o bryd yn mynychu cwrs dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, ac yn benderfynol o ddefnyddio’r iaith adref wrth fagu ei blant – Eirwen, 5, a Mostyn, 3.

Mae hefyd wedi sefydlu clwb hoci dwyieithog ar gyfer seiclwyr beic un olwyn yng Nghaerdydd.

Dywed fod sefydlu’r clwb wedi ei alluogi ef a’i gydchwaraewyr i ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Unwaith yr ydych chi’n dechrau dysgu, wnewch chi ddim difaru,” ychwanega Ben Tullis.

“Defnyddiwch yr iaith pryd bynnag a lle bynnag y medrwch chi, achos wrth ymarfer eich sgiliau bydd eich hyder yn cynyddu.

“Byddaf yn siŵr o ddefnyddio’r sgiliau ieithyddol dw i wedi eu dysgu am weddill fy mywyd, a byddaf yn fythol ddiolchgar i’r iaith Gymraeg am yr hyn y mae wedi ei rhoi i mi.”