Mae Gweinidog Gartref yr Eidal, Matteo Salvini, wedi gwahardd llong ddyngarol yr Almaen sy’n cario ffoaduriaid o Libya o’i foroedd.

Mae mesurau fel hyn yn cael eu pasio gan Matteo Salvini wedi dod yn fwyfwy arferol yn ei ymgais iddo i atal ffoaduriaid i gyrraedd y wlad.

Cafodd tua 100 o bobol eu hachub gan grŵp dyngarol yr Almaen, Lifeline, ar ddydd Llun (Awst 26) mewn cwch rwber tua 31 milltir o arfordir Libya.

Mae Lifeline yn galw ar lywodraeth yr Almaen i’w helpu i ddod o hyd i borthladd saff. Yr Eidal a Malta yw’r agosaf ar hyn o bryd ac mae Malta wedi derbyn ffoaduriaid yn ei hardal yn y gorffennol.