Mae arweinwyr rhai o wledydd y G7 sy’n cyfarfod mewn uwchgynhadledd yn Biarritz yn Ffrainc wedi addo ceisio helpu ymladd y tanau dinstriol yn rhanbarth yr Amazon.

Dywed Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fod yr arweinwyr yn nesáu at gytundeb ar sut i helpu Brasil “yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl”.

Dywed Canghellor yr Almaen, Angela Merkel y bydd ei gwlad ac eraill yn siarad gyda Brasil am ail-goedwigo yn yr Amazon ar ôl i’r tanau gael eu diffodd.

“Tiriogaeth Brasil yw hwn wrth gwrs, ond mae dyfodol y coedwigoedd glaw yn gwestiwn byd-eang mewn gwirionedd,” meddai. “Mae’n effeithio ar ysgyfaint y ddaear gyfan, felly rhaid inni gael hyd i atebion cyffredin.”

Mae prif weinidog Prydain, Boris Johnson, hefyd wedi addo £10 miliwn i helpu gwarchod coedwigoedd yr Amazon – swm sydd wedi cael ei gollfarnu gan y Blaid Lafur fel un druenus o annigonol.

Roedd arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro, wedi cyhoeddi y byddai 44,000 o filwyr yn cael eu hanfon i ymladd y tanau, ond dim ond ychydig gannoedd sydd wedi cael eu gyrru hyd yma.