Mae o leiaf bump o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng hofrennydd ac awyren fach ar ynys Mallorca yn Sbaen.
Mae lle i gredu bod plentyn ymhlith y rhai fu farw.
Yn ôl llygad-dystion, fe blymiodd y cerbydau i’r ddaear mewn cae fferm.
Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i’r sefyllfa ar hyn o bryd.