Mae dwsinau o achubwyr wedi bod yn defnyddio ffrwydron wrth geisio dod o hyd i ddau berson sy’n sownd mewn ogof ddofn yng ngwlad Pwyl.
Mae’r ddau wedi bod yn sownd yn ogof Wielka Sniezna, yn ardal y mynyddoedd Tatra, ers dydd Sadwrn (Awst 17).
Mae gan yr ogof, sy’n cael ei hystyried yr ogof ddyfnaf a hiraf yn y wlad, yn cynnwys 15 milltir o dwneli sy’n mynd 2,625 o droedfeddi dan ddaear.
Yn ôl pennaeth y tîm achub, does ganddyn nhw ddim modd o gyfathrebu â’r ddau sydd ar goll, ac mae gwybodaeth am eu lleoliad yn seiliedig ar dystiolaeth gan bedwar person arall a lwyddodd i adael yr ogof.
Mae ffrwydron yn cael eu defnyddio er mwyn lledaenu twneli cyfyng yr ogof.
Ond mae ffrwydro’r graig yn rhyddhau llwch a nwyon peryglus, meddai’r achubwr ymhellach, sy’n golygu bod rhaid i weithwyr gael hyd at dair awr o egwyl rhwng y ffrwydriadau er mwyn sicrhau bod digon o aer yn yr ogof.