Mae dyn wedi marw ar ôl i gar fynd ar dân ym Mharc Tredegar yn Rhisga, Gwent.

Am tua 9.30 fore heddiw (dydd Llun, Awst 19) cafodd Heddlu Gwent eu hysbysu bod car ar dân yn yr ardal. 

Aeth yr heddlu yno ynghyd a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwasanaeth Ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ond mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio.

Nid yw Parc Tredegar ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd ac mae Stryd Tredegar, Heol y Parc a Heol yr Orsaf ynghau.