Mae 8,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd tanau gwyllt yn Gran Canaria yn Sbaen.

Dywed Arlywydd yr ynys, Angel Victor Torres fod 1,100 o ddiffoddwyr tân yn symud pobol ac yn ceisio diffodd fflamau 160 troedfedd o uchder yn Gran Canaria.

Mae’r ynys yn un folcanig fynyddig ac wedi’i leoli ger Sbaen yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Fe ddechreuodd y tân ar ddydd Sadwrn (Awst 18) ac mae dros 14,800 erw wedi cael eu llosgi mewn 48 awr wrth i 12 awyren awyr ollwng dŵr ar y fflamau.  

Mae’r tân yn lledaenu ar draws coetiroedd ym Mharc Naturiol Tamadaba, sy’n cael ei ystyried yn un o brif atyniadau’r ynys. Mae rhyw ddau ddwsin o ffyrdd wedi bod ynghau.

Mae Gran Canaria yn enwog am ei thraethau a’i mynyddoedd. Mae’r ynys a’i phrifddinas, Las Palmas, yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd.