Mae o leiaf wyth o bobl wedi cael eu lladd mewn tân mewn gwesty yn Odessa, porthladd ar y Môr Du yn Wcrain.
Aed â 10 o bobl eraill i’r ysbyty wedi’r tân a oedd yn ymestyn i gylch o tua 1,000 o fetrau sgwar o gwmpas gwesty’r Tokyo Star.
Dywed heddlu’r wlad fod ymchwiliad troseddol wedi cychwyn i achos y tân ychydig cyn toriad gwawr y bore yma.
Gwesty rhad gerllaw prif orsaf reilffordd Odessa yw’r Tokyo Star, ac mae lluniau o wefannau adolygiadau twristaidd yn dangos ystafelloedd cul, rhai fod fod fawr lletach na gwely sengl.