Mae arweinydd Llafur yn galw ar i siopau gwag mewn canol trefi gael eu defnyddio ar gyfer cychwyn busnesau newydd a phrosiectau cymunedol.
Dywed Jeremy Corbyn y dylai cynghorau gael y grym i ailagor siopau sydd wedi cael eu gadael yn wag am 12 mis neu fwy.
Byddai hyn yn helpu gwrthdroi “pydredd economaidd” canol trefi Prydain, meddai.
“Mae siopau wedi cau â byrddau drostyn nhw yn symbol truenus o’r esgeulustod mae llawer o gymunedau wedi ei ddioddef,” meddai.
“Mae gan Lafur gynllun radical i adfywio strydoedd canol trefi Prydain trwy roi cyfle i fusnesau a phrosiectau newydd wireddu eu potensial.”