Fe fu farw’r actor Hollywood Peter Fonda yn 79 oed.
Roedd yn aelod o deulu blaenllaw o sêr, yn fab i Henry Fonda ac yn frawd i Jane Fonda.
Daeth i enwogrwydd fel seren y ffilm Easy Rider yn 1969, ac mae’n bosibl mai am ei ran fel y beiciwr hirwallt yn y ffilm hon y bydd yn cael ei gofio fwyaf, er iddo fwynhau gyrfa hir yn Hollywood wedyn.
Roedd hefyd yn feirniad cyson ac ymfflamychol yn aml o Donald Trump yn ei flynyddoedd olaf.