Mae 10 o bobl yn dal yn ddalfa ar ôl i blismon ifanc farw wedi iddo gael ei lusgo gan gerbyd yn Berkshire yn ne Lloegr.
Fe fu farw Pc Andrew Harper, 28 oed, yn dilyn “digwyddiad difrifol” tua 11.30 nos Iau ar yr A4 rhwng Reading a Newbury.
Dywed Heddlu Dyffryn Tafwys fod 10 o fechgyn a dynion rhwng 13 a 30 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a’u bod yn y ddalfa mewn amryw o orsafoedd heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl John Campbell i Pc Harper ymuno fel cwnstabl arbennig yn 2010 cyn dod yn blismon flwyddyn yn ddiweddarach, ac i’r trychineb ddigwydd bedair wythnos yn unig ar ôl ei briodas.
“Roedd yn aelod uchel ei barch a phoblogaidd o’r tîm,” meddai John Campbell.
“Mae pawb yn dweud y bydd colled enfawr ar ei ôl fel plismon ac fel ffrind.
“Fe fydd baneri’r heddlu’n hedfan ar hanner y mast fel arwydd o barch er anrhydedd a chof am Andrew.”
Dywedodd y prif weinidog Boris Johnson fod yr ymosodiad ffiaidd yn ei ddychryn a’i gythruddo, gan ailadrodd ei addewid i gyflogi 20,000 yn fwy o blismyn a dedfrydau hirach o garchar i droseddwyr treisgar.