Cafodd gyrrwr ei ladd ac un arall ei arestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn ardal Elai yng Nghaerdydd bnawn ddoe.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Nissan Micra llwyd ac Audi A3 du ar y groesffordd rhwng Cowbridge Road West a Hillsnook Road tua 2.40pm.
Aed â gyrrwr y Nissan i Ysbyty Prifysgol Cymru lle bu farw’n ddiweddarach.
Dywed Heddlu De Cymru fod gyrrwr yr Audi wedi cael ei arestio a’i fod yn y ddalfa.
Maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 1900302064.