Mae heddwas a gafodd ei anafu mewn ymosodiad yn ardal Wrecsam yn dweud ei fod yn ddiolchgar am yr holl negeseuon o gefnogaeth mae wedi eu derbyn.
Roedd PC Richard Priamo o’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn ceisio arestio dyn ar Lôn yr Ysgol, Glanrafon, pan ddigwyddodd yr ymosodiad bythefnos yn ôl (Awst 3).
Cafodd wedyn ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor, cyn cael mynd adref yr wythnos hon.
Mae’n dweud ei fod wedi derbyn negeseuon o bob cwr o’r byd, gan gynnwys un gan y cyn-chwaraewr rygbi, Mike Phillips, ac un arall gan swyddogion Adran Heddlu Vancouver yng Nghanada.
“Dw i wedi cael fy llethu gan ymweliadau gan ffrindiau, teulu, cydweithwyr, ac rwyf wedi cael cymaint o gardiau gan aelodau o’r cyhoedd,” meddai Richard Priamo. “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i ddymuno’n dda i mi, ac yn arbennig staff ward SAU yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
“Roedden nhw’n wirioneddol wych, yn frwd iawn eu croeso ac yn ofalus iawn yn eu gofal.”
‘Adferiad yn broses hir’
Mae’r heddwas yn rhag-weld proses hir o wella o’i flaen wrth iddo wynebu rhwng dau a phedwar mis i ffwrdd o’r gwaith.
“Dw i’n eithaf poenus ar hyn o bryd, ac mae’n anodd symud,” meddai Richard Priamo. “Oherwydd fy anafiadau, mae’n rhaid i mi gymryd llawer o feddyginiaeth, sydd hefyd yn gwneud i mi flino.
“Dw i’n canolbwyntio nawr ar ddatblygu ymarferion ffisio, gwella adref ac apwyntiadau anochel yn yr adran cleifion allanol.
“Dw i bron â thorri fy mol i fynd yn ôl i’r gwaith, a gwneud yr hyn dw i’n ei wneud orau, ond dw i’n deall mai adferiad llwyr yw’r flaenoriaeth am nawr.”
Mae dyn, 25, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn yr ymosodiad.