Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, ymhlith y siaradwyr mewn digwyddiad yn Llundain yr wythnos hon a gafodd ei drefnu gan grŵp o ffermwyr sy’n galw am ail refferendwm Brexit.
Fe gafodd praidd o ddefaid eu gyrru ar hyd strydoedd Whitehall ddoe (dydd Iau, Awst 15) ar drothwy’r cyfarfod yn y Farmers’ Club yn 3 Whitehall Court.
Yn gyfrifol am y stynt cyhoeddusrwydd oedd y Farmers for a People’s Vote, sy’n rhybuddio y gallai hanner o fusnesau ffermio fynd i’r wal os bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Ffermwyr wedi cael eu twyllo
Yn ôl Guto Bebb, fe fyddai bwrw ymlaen â Brexit dim cytundeb, a hynny heb sêl bendith y cyhoedd, yn “sarhad ar ein democratiaeth”.
“Mi rydw i’n cynrychioli llawer o ffermwyr yn fy etholaeth,” meddai. “Wnaethon nhw ddim pleidleisio o blaid rhoi eu hunain allan o fusnes, gan beryglu eu bywoliaeth.
“Fe bleidleisiodd llawer ohonyn nhw o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd bod pobol fel Boris Johnson wedi dweud wrthyn nhw y byddai’n golygu perthynas well o ran masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â dyfodol gwell.
“Mae’r realiti i’w weld yn wahanol iawn nawr.”
Brexit heb gytundeb – “gwallgofrwydd”
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn ystod y cyfarfod gan Dr Sean Rickard, cyn-brif economegydd yr NFU, mae’r diwydiant amaeth a bwyd am fod “yn agored i niwed” os bydd Brexit dim cytundeb.
Mae’n nodi bod yna beryg i ffermydd gwledydd Prydain droi’n “anghystadleuol” wrth i’r Undeb Ewropeaidd, a gwledydd eraill y mae’r Deyrnas Gyfunol yn masnachu’n ddi-doll â nhw, gyflwyno tollau ar allforion.
Fe allai colli’r system bresennol o gymorthdaliadau, yn ogystal â marchnad fwy cystadleuol, ddod â hanner y busnesau fferm yng ngwledydd Prydain i ben erbyn canol yr 2020au, meddai’r adroddiad wedyn.
“Mae llawer o ddiwydiannau yn mynd i ddioddef, ond y diwydiant a fydd yn dioddef o’r sioc economaidd mwyaf difrifol fydd amaethyddiaeth,” ychwanega Dr Sean Rickard.
Mae arolwg barn yng nghylchgrawn y Farmers Weekly yr wythnos hon yn nodi bod 53% o’i ddarllenwyr yn credu bod Brexit yn mynd i gael effaith negatif ar eu busnes. Mae 21% wedyn yn credu i’r gwrthwyneb, tra bo 26% yn ‘niwtral’.