Mae’r awdurdodau ffederal sy’n ymchwilio i farwolaeth Jeffrey Epstein yn y ddalfa wedi diarddel dau swyddog diogelwch ac wedi symud warden o’i swydd.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn tystiolaeth gynyddol nad oes digon o staff yn gweithio yn y carchar lle gwnaeth y dyn busnes 66 oed ladd ei hun.

Roedd yn aros i sefyll ei brawf ar amheuaeth o gam-drin merched yn eu harddegau.

Fe fu’r awdurdodau’n ei wylio y mis diwethaf rhag ofn y byddai’n lladd ei hun, ond fe ddaeth y gwarchod hwnnw i ben am resymau nad ydyn nhw wedi cael eu hegluro hyd yn hyn.

Y drefn oedd y dylai’r swyddogion fod wedi cadw llygad arno bob hanner awr, ond fe ddaeth i’r amlwg nad oedd unrhyw un wedi ei warchod ers rhai oriau cyn ei farwolaeth.

Mae lle i gredu bellach fod swyddogion wedi ffugio dogfennau yn dweud iddyn nhw ei warchod, a bod un o’r swyddogion wedi cael ei symud yno o rywle arall oherwydd prinder staff, ac nad oedd yn gyfarwydd â’r drefn arferol.

Pe bai wedi’i gael yn euog, fe allai Jeffrey Epstein fod wedi cael ei garcharu am hyd at 45 o flynyddoedd.

Dydy hi ddim yn glir eto sut y lladdodd ei hun.