“Llenwi i mewn” oedd un o warchodwyr cell y biliwnydd, Jeffrey Epstein, ar y noson y bu farw,
Nid yw’r manylion ynglŷn â sut y bu farw Jeffrey Epstein, 66, wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn, ond mae swyddogion meddygol wedi cynnal archwiliad post-mortem.
Roedd yr ariannwr wedi’i gyhuddo o gam-drin merched o dan oed yn rhywiol.
Roedd ei farwolaeth sydyn ddydd Sadwrn (Awst 10) yn golygu na fyddai’n wynebu achos troseddol a fyddai wedi datgelu ei weithredoedd a’i gysylltiadau gydag enwogion ac arlywyddion, er bod erlynwyr wedi dweud y byddan nhw’n parhau i gynnal ymchwiliad.
Gwrthodwyd mechnïaeth i Epstein ac fe’i daliwyd yn y Metropolitan Correctional Centre (MCC) yn Efrog Newydd, gan wynebu hyd at 45 mlynedd y tu ôl i fariau.
“Cefais fy arswydo, ac yn wir roedd yr adran gyfan, yn flin am glywed am fethiant y Metropolitan Correctional Centre i sicrhau’r carcharor hwn yn ddigonol,” meddai’r Cyfreithiwr Cyffredinol William Barr.
“Rydyn ni nawr yn dysgu am afreoleidd-dra difrifol yn y cyfleuster hwn sy’n peri pryder mawr ac yn mynnu ymchwiliad trylwyr. Mae’r FBI a swyddfa’r arolygydd cyffredinol yn gwneud yn union hynny.”
“Byddwn yn cyrraedd gwaelod yr hyn a ddigwyddodd a bydd atebolrwydd.”