Mae’r ymdrech yn parhau i chwilio am ferch ifanc o wledydd Prydain sydd wedi bod ar goll yn Malaysia ers y penwythnos.

Fe ddiflannodd Nora Quoirin, 15, sydd ag anghenion arbennig, o’i hystafell wely ym mharc gwyliau Dusun yn nhalaith Negeri Sembilan fore dydd Sul (Awst 4).

Dywed ei theulu eu bod nhw’n dal i fod yn obeithiol ar ôl i’r heddlu sy’n ymchwilio i’r achos wrthod diystyru “elfen droseddol”.

Mae’r heddlu bellach wedi dod o hyd i olion bysedd yn y bwthyn lle diflannodd Nora Quoirin, er gwaethaf dweud ynghynt nad oedd unrhyw arwyddion o ddrwgweithredu.

Mae dros 200 o bobol yn rhan o’r ymdrech chwilio sy’n gweithio 24 awr y dydd.