Mae plismon wedi derbyn “anafiadau difrifol” ar ôl cael ei daro gyda machete wrth geisio atal cerbyd yn nwyrain Llundain.

Cafodd y swyddog gwrywaidd ei daro sawl gwaith, cyn saethu’r ymosodwr gyda’i wn taser er mwyn amddiffyn ei hun rhag rhagor o niwed.

Cafodd person ei arestio gan heddwas arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, mae disgwyl i’r heddwas, sydd bellach yn yr ysbyty, wella o’i anafiadau.