Bydd cofnodion a lleisiau Aelodau Cynulliad benywaidd yn cael eu diogelu gan brosiect newydd yn y Cynulliad.

Bwriad ‘Gwir Gofnod o Gyfnod’ yw casglu profiadau’r Aelodau Cynulliad benywaidd sydd wedi cynrychioli gwahanol rannau o Gymru yn y sefydliad ers 1999.

Mae cyfanswm o 62 o fenywod wedi gwasanaethu fel Aelodau ers y cychwyn cyntaf, gyda 19 wedi ymddeol, 12 wedi colli eu seddi, dwy wedi ymddiswyddo, un wedi marw a 28 yn parhau i wasanaethu.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei gynnal gan Archif Menywod Cymru o fewn y Cynulliad, yn casglu dogfennau, ffotograffau a phapurau gan y gwleidyddion benywaidd, yn ogystal â chynnal cyfweliadau llafar â nhw.

“Mae’r cynrychiolwyr benywaidd democrataidd hyn wedi gwneud cyfraniadau enfawr i hanes gwleidyddol datganoli yng Nghymru – rhaid diogelu eu cofnodion a’u storïau ar gyfer y dyfodol,” meddai Cadeirydd Archif Menywod Cymru.

“Braint yr Archif fydd cyfrannu at ddathlu’r cyfraniadau hyn trwy ddiogelu’r archif hanesyddol werthfawr hon.”